Dros y penwythnos fe ges i’r cyfle i sgwrsio efo’r Arglwydd Elystan Morgan y Dole ar ran cylchgrawn Buzz – mae ei iechyd yn lawer gwell diolch byth- mae ei ymateb i fy nghwestiwn ynglŷn â hanes twf UKIP islaw’r llun; felly cofiwch bleidleisio yn ofalus yfory os am osgoi gweld y Blaid United Kingdom Independence yn gwireddu dymuniad Nigel Farage o ennill hanner dwsin o seddi yn ein Senedd!

IMG_1240

Yn fras, un ffactor fawr yn gefndir i hyn yw – yn 1945 roedd 91% wedi pleidleisio i naill ai y Blaid Lafur neu’r ‪#‎Ceidwadwyr‬ tra’r sefyllfa nawr yw bod hynny wedi gostwng i 55% sydd wedi creu vacuum. I mewn i’r vacuum yna mae ganddoch chi y ‪#‎Liberals‬, a gallen nhw wedi bod yn ddylanwadol ond bod nhw’n rhy ‘wishy washy’. Mae ‪#‎PlaidCymru‬ yn cyfrannu yn ddigon anrhydeddus, tra bod #UKiP …[wel] yr un rheswm y ffactor vacuum sy’n meddwl nad ydynt yn cael eu cyfyngi.

Yr ail beth i’w ystyried : dydw i heb glywed unrhywbeth gan y BNP na’r National Front ers i UKIP dod i’r amlwg , mae eu barn yn cael cynrychiolaeth gan UKIP sydd wedi eu llynci. Gellir hefyd ychwanegu pobl nad sydd yn pleidleisio fel arfer – nad sydd yn ymwneud â’r broses gwleidyddol at hyn. Fel arfer bydden nhw wedi sefyll gartref gan nad oedden nhw yn teimlo bod y ddwy blaid mawr yn sefyll drostynt.

3. Yn etholiadau Ewrop deunaw mis yn ôl, roedd UKIP o gewn 5,000 pleidlais i gyfanswm Llafur. Dyma blaid sy’n dal i dyfu.

4. Waeth bydd pethau’n mynd , mae’r vacuum yn fwy a bydd gwyntoedd poeth yn gwneud y peth yn fwy ac yn fwy.

[Geiriau Elystan, ambell i aralleiriad]

Blog Buzz ‘Dai Lingual’

(sgroliwch lawr am y Gymraeg)


WORLD RENOWNED AMERICAN ECONOMIST ELLEN BROWN TO SPEAK IN CARDIFF ON A PUBLIC BANK OF WALES

Arian Cymru have announced that Cardiff Business School, in association with Arian Cymru, will be holding an event at Cardiff University’s Bute Building this Wednesday February 24th titled ‘The Ellen Brown lecture – A Public Bank of Wales and the World Economic Situation’

A statement from Arian Cymru reads:

“It gives us great pleasure to welcome world renowned economist Ellen Brown to Wales and to Cardiff University. Using her vast wealth of knowledge and expertise in this field, Ellen will give a presentation on the opportunities Wales has for establishing its own Public Bank – something that is being increasingly discussed in economic circles worldwide. Ellen will also talk about the precarious world economic situation in general, including the latest situation in the EU, the looming TTIP (Transatlantic Trade and Investment Partnership) and bank bail ins (where money held in individual bank accounts is swallowed by the bank). There will be opportunities for a question and answer session at the end of Ellen’s presentation.”

Tickets are free but need to be reserved in advance. Participants are advised to order as soon as possible. To order your tickets and see more details on Ellen Brown and the event visit this link:

https://www.eventbrite.co.uk/e/ellen-brown-lecture-at-cardiff-university-a-public-bank-of-wales-and-the-world-economic-situation-tickets-21319233401?aff=es2

 

Ellen Brown

                                _____________________________

 


YR ECONOMEGYDD BYD ENWOG, ELLEN BROWN I SIARAD YNG NGHAERDYDD AR FANC CYHOEDDUS I GYMRU

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod Ysgol Fusnes Caerdydd, mewn cydweithrediad a Arian Cymru, yn cynnal digwyddiad yn adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd nos Fercher yma, 24 o Chwefror o’r enw ‘The Ellen Brown Lecture – A Public Bank of Wales and the World Economic Situation’

Mae’n bleser mawr gennym i groesawu’r economegydd byd enwog o’r UDA, Ellen Brown i Gymru ac i Brifysgol Caerdydd. Gan ddefnyddio ei chyfoeth helaeth ac arbenigedd yn y maes hwn, bydd Ellen yn rhoi cyflwyniad ar y cyfleoedd sydd gan Gymru i sefydlu Banc Cyhoeddus Cenedlaethol – rhywbeth sy’n cael ei drafod yn gynyddol mewn cylchoedd economaidd ledled y byd. Bydd Ellen hefyd yn sôn am sefyllfa economaidd fregus y byd yn gyffredinol, gan gynnwys y sefyllfa ddiweddaraf yn yr UE, TTIP (Transatlantic Trade and Investment Partnership) a ‘bail ins’ gan fanciau (ble mae arian mewn cyfrifon personol yn cael ei lyncu gan y banc). Bydd cyfle ar gyfer sesiwn cwestiwn ac ateb ar ddiwedd y cyflwyniad.

Mae’r tocynnau am ddim ond mae angen eu archebu o flaen llaw. Archebwch yn gynnar os yn bosib – rydym yn rhagweld y bydd tocynnau yn mynd yn gyflym. I archebu eich tocynnau ag i weld mwy o fanylion am y digwyddiad gyda Ellen Brown ewch i’r ddolen hon:

https://www.eventbrite.co.uk/e/ellen-brown-lecture-at-cardiff-university-a-public-bank-of-wales-and-the-world-economic-situation-tickets-21319233401?aff=es2

Gobeithiwn yn fawr y byddy digwyddiad yma o ddiddordeb ac y gallwch fynychu a / neu efallai basio’r manylion i bobl a allai fod â diddordeb mewn mynychu. Am fanylion pellach neu i drefnu cyfarfod neu gyfweliad gyda Ellen tra ei bod yng Nghaerdydd, cysylltwch!
Dilynwch: @ArianCymru FOLLOW! @arianbywcardiff 

[gweler y datganiad gwreiddiol yn Gymraeg, isod]

Planning Downfall of Welsh Government

Community Activists rally in Rhayader this Friday

This Friday, community activists from all over Wales will meet in Rhayader to put further pressure on the beleaguered Planning Bill currently under scrutiny by the Environment and Sustainability Committee in the Senedd.

Planning has always been a hot potato in modern Wales. Despite this there is no sense that the Welsh Government are taking the concerns of its citizens seriously, even though there is now talk of a legal challenge as over 70% of people in Wales state that they believe that planning decisions should be scrutinized and determined at a more local-level.

“There is a bold tradition of protest in Wales, and the Planning Bill in its current format is not acceptable – the First Minister and his Welsh Government must listen to the will of the people,” states Tamsin Davies, Secretary of the Alliance of Welsh Language Communities,

“especially as practically three-quarters of people living in Wales believe that housing decisions should be taken locally.”

“Our meeting this week will be a chance for well-established protest groups to meet to discuss this crucial issue – and expect a further statement from us on Friday!”

As well as community groups, anyone who is concerned about the Planning Bill for Wales are invited to take part in the meeting, which will be led by Jill Evans MEP of Plaid Cymru who recognises the need for action on this crucial issue.

For further information, or to arrange an interview,
email david@cymunedau.org

http://www.cymunedau.org
http://www.twitter.com/cynghrair http://www.facebook.com/cymunedaucymraeg

Cyfarfod CCC 12

Llofnodwch i danseilio’r Llywodraeth!

#DatblyguYBoblLeol yn cyfarfod nos Wener

Nos Wener yma, daw ymgyrchwyr o bob cwr o Gymru ynghyd yn Rhaeadr Gwy er mwyn argyhoeddi pa mor anhapus y maent ynglŷn â’r Bil Cynllunio arfaethedig, wrth i Bwyllgor Amgylcheddol a Chynaliadwyedd y Senedd barhau’r craffu yng Nghaerdydd.

Mae cynllunio tai wedi bod yn bwnc llosg erioed yn y Gymru fodern, ac er hynny nid oes yna’r teimlad bod Llywodraeth Cymru o ddifri am y maes wrth gyflwyno eu bil; yn wir mae yna gymaint o bryder bu sôn am her gyfreithiol hyd yn oed – wrth i dros 70% o bobl yng Nghymru datgan eu bod yn credu taw ar lefel lleol dylai penderfyniadau cynllunio cael eu craffu a’u penderfynu.

” Gennym draddodiad balch o brotest yng Nghymru, ac mae’n rhaid i ni arddangos nad yw’r Bil Cynllunio ar gyfer Cymru yn ei ffurf bresennol yn dderbyniol,” meddai Ysgrifennydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg Tamsin Davies.

“Mae’n rhaid i’r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru wrando ar ewyllys y bobl; yn enwedig o ystyried bod bron i dri chwarter o’r bobl sy’n byw yng Nghymru yn credu y dylid penderfynu ar gynllunio tai newydd ar lefel lleol.”

“Bydd ein cyfarfod Datblygu y Bobl Leol yr wythnos hon yn gyfle i grwpiau protest gyfarfod i drafod y mater hollbwysig yma, ac fe fy fyddwn ni yn cyfansoddi a llofnodi llythyr cry’ ar y cyd i hela at y Llywodraeth ar Nos Wener!”

Yn ogystal â grwpiau lleol, bydd yna groeso cynnes i unigolion sydd â diddordeb yn y maes; mae’r Aelod Seneddol i Ewrop Jill Evans o Blaid Cymru wedi addo i wrando ar ofidion y cyfarfod.

Am wybodaeth bellach, neu i drefnu cyfweliad / dod draw i’r cyfarfod cysylltwch â david@cymunedau.org
#BilCynllunio ? #DatblyguYBoblLeol

‘Y £USNES CYMRAEG YMA’

…welcoming #Steddfod14 to Llanelli!

Daw caredigion yr iaith ynghyd yn Llanelli ar drothwy dechrau’r Eisteddfod Genedlaethol yno i drafod sut gallai’r Eisteddfod cynyddu statws yr iaith ac elwa busnesau yn lleol. Ceir cyfarfod cyhoeddus Cynghrair Cymunedau Cymraeg ar nos Iau, 31 Gorffennaf yn Neuadd Gymunedol Llanerch i drafod ‘Y Busnes Cymraeg Yma…o Hyd.’

[This Thursday, language lovers will congregate in Llanelli just before the beginning of this year’s National Eisteddfod to welcome the festival to the area; and to explore how it could promote the use of the language locally as part of its legacy – particularly in the business sector. C.C. Cymraeg, a Welsh language alliance of communities from all over Wales hold a public meeting Thursday evening at 7pm with a warm Welsh welcome to all.]

Poster i Lanelli nos Iau yr hwyr

“Erbyn hyn, mae’n angenrheidiol bod y Gymraeg gael ei defnyddio fel iaith fyw ac iaith gwaith,” yw barn Craig ab Iago, Cadeirydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg.

[“At this juncture, it is essential that Welsh is used as the language of work and is therefore a living language,” says the Chairman of C.C.Cymraeg Craig ab Iago, the language champion of Gwynedd who’ll chair the meeting.]

Dyna’r gobaith – ac yn ardal Llanelli mae yna’r angen i ddatblygu strategaeth hirdymor er mwyn sicrhau swyddi o safon yn y dref ei hun. Mae Cyngor Tref Llanelli eisoes yn aelod o Gynghrair Cymunedau Cymraeg, mudiad sydd yn hybu grwpiau cymunedol a busnesau sy’n gwneud defnydd o’r iaith neu sydd am i’r Gymraeg ffynnu yn eu hardal.

[Llanelli is an example of a town where there needs to be a long-term strategy in order to create work for the local Welsh-speaking community to ensure its survival. The Town Council have already joined C.C.Cymraeg, an organisation that promotes community groups and businesses who use the Welsh language or who wish to see it grow in their area.]

Eleni, mae Cynghrair Cymunedau Cymraeg wedi derbyn y cynnig i gydweithio efo gwaddol y Fro (Eisteddfod Genedlaethol 2012) i’w helpu i sefydlu canolfan i’r Gymraeg. Beth tybed yw dymuniad Sir Gaerfyrddin am y dyfodol?

[This year, C.C. Cymraeg has received an invitation to co-operate with the existing legacy from the National Eisteddfod of 2012 in the Vale to establish a Welsh centre in Barry. What will the local community in Carmarthenshire want for their future? Hear local views..]
.
Siaradwyr gwadd – o Gyngor Tref Llanelli – Mel Edwards of Llanelli Town Council
+ Rhianedd Rhys ‘Y Lle’: Lolfa Gymunedol a Chanolbwynt Iaith Llanelli.
Croeso 7pm, cyfarfod cyhoeddus 7.30- 8.30pm meeting.

Am fwy o wybodaeth am Gynghrair Cymunedau Cymraeg, i archebu sedd neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â David Wyn

david@cymunedau.org 07964 684 820 / 02920 707 469

[For more information about C. C. Cymraeg ,to book your seat or to organise an interview with one of our speakers, get in touch with David Wyn.]

Ceir cyfle i wrando ar un o enwau fwyaf adnabyddus diwylliant Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, wrth i Gynghrair Cymunedau Cymraeg groesawu’r bargyfreithiwr lleol Gwion Lewis i Oriel Môn i’w gyfarfod blynyddol yn Llangefni.

Bydd cynrychiolwyr gwahanol gymunedau a mudiadau yn trafod sut y gallan nhw efelychu cyrff fel Cyngor Gwynedd sy’n gwneud eu gwaith mewnol drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cael effaith positif ar sefyllfa’r iaith ar lefel gymunedol. Mae newidiadau o dan Fesur y Gymraeg a basiwyd yn y Cynulliad yn 2011 yn galluogi rhagor o gyrff fabwysiadu polisi uniaith Gymraeg.

Medd Gwion Lewis, a gafodd ei fagu yn Llangefni:

“Mae’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn hawl elfennol ac mae’n holl bwysig bod grwpiau cymunedol ar lawr gwlad yn deall sut y gall y gyfraith eu cefnogi yn eu hymdrechion i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau.”

Dwedodd Cadeirydd Cynghair Cymunedau Cymraeg Craig ab Iago:

“Rydyn ni’n grediniol y gall cymunedau eu hunain, wedi eu grymuso gan y ddeddfwriaeth newydd, fabwysiadu polisiau iaith blaengar er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ar lefel gymunedol. Bydd yna groeso cynnes i aelodau hen a newydd i’n Cyfarfod Blynyddol eleni, a hoffwn gydnabod llwyddiant y Gynghrair wrth ddenu cynifer o grwpiau cymunedol o hyd a lled Cymru i’n haelodaeth. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cyfarfod yn rhoi’r hyder i’n haelodau y gallan nhw weithredu’n uniaith Gymraeg o dan y ddeddfwriaeth newydd. Gobeithio y byddan nhw’n arwain y blaen i gymunedau ar hyd a lled y wlad.”

Mae gan Gynghrair Cymunedau Cymraeg ddeugain o aelodau sydd am rymuso eu cymunedau wrth sicrhau twf i’r iaith yn lleol.

Prif destun cyfarfod dydd Sadwrn Mawrth 1af yw ‘Gweithredu yn Fewnol yn Gymraeg’; bydd yna groeso arbennig i unrhyw gynghorwyr lleol neu gynrychiolwyr cyngor cymuned sydd am wybod mwy am sut i sicrhau’r hawl yma yn sgil y newidiadau sirol sydd wrth law dros Gymru gyfan. Bydd yna hefyd gyfle i drafod effaith cynllunio tai ar gymunedau Cymraeg, ac i chi godi ymwybyddiaeth themâu eraill sy’n effeithio cymunedau ein gwlad.

DIWEDD

NODIADAU

1. Manylion y Cyfarfod:
Cyfarfod Blynyddol, Cynghrair Cymunedau Cymraeg
10yb, Dydd Sadwrn Mawrth 1af yn Oriel Môn, Llangefni

2. Am fanylion pellach, cysylltwch gyda Chydlynydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg sef David Wyn david@cymunedau.org / 07964 684 820 / 02920 486 469
http://www.cymunedau.org
http://www.twitter.com/cynghrair
http://facebook.com/cymunedaucymraeg

Er gwybodaeth, daw cynsail y cysyniad o Wlad y Basg!
Egwyddorion Cynghrair Cymunedau Cymraeg

1. Trwy’r Cynghrair gallwn gydweithio er mwyn creu ymwybyddiaeth genedlaethol o’rrealiti nad oes dyfodol i’r Gymraeg heb yr ardaloedd hynny lle mae’n dal yn iaith fyw.

2. Trwy’r Cynghrair gallwn gydweithio i addysgu mewnfudwyr a’u cymhathu fel bodmodd iddynt gyfoethogi ein cymunedau.

3. Gallwn annog cydweithrediad cymdeithasol, economaidd a diwylliannol rhwng ycymunedau hynny sy’n rhan o’r cynghrair.

4. Gallwn gydweithio er mwyn sicrhau fod y drefn gynllunio yn gwasanaethu ein cymunedau.

5. Gallwn sicrhau fod pob cymuned yng Nghymru yn gwireddu ei photensial ac y byddwn yn gweld cynnydd yn y canrannau fydd yn siarad Cymraeg.

6. Gallwn gyd-ymgyrchu i sicrhau fod gan bawb yn ein cymunedau yr hawl igyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.

7. Gallwn sicrhau fod anghenion addysgol ein cymunedau yn cael eu gwireddu.

8. Anelwn am wneud y Gymraeg yn iaith naturiol bywyd pob dydd.

9. Rhaid sicrhau fod ein Cynghorau Sir a Chymuned a sefydliadau eraill yngweithredu trwy’r Gymraeg.

10. Cydweithiwn i herio grym y farchnad rydd sydd yn tanseilio ein bywydau a mynnwn fod yr economi yn cryfhau’n cymunedau.